Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Sion

Oddi ar Wicidestun
Dau Robin Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Aber Gwesyn

CCIII. , CCIV. SION.

SION i fyny, Sion i wared,
Sion i garthu tan y gwartheg;
Sion a ŵyr yn well na'r merched
Pa sawl torth a wneir o beced.

Fe geir pedair torth o phioled,
Fe geir wyth o hanner peced;
Ac os bydd y wraig yn hyswi,
Fe geir teisen heblaw hynny.