Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Ladis

Oddi ar Wicidestun
Gwaith Tri Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Y Daran

CCXLVIII. LADIS.

LADIS bach y pentre,
Yn gwisgo cap a leise;
Yfed te a siwgwr gwyn,
A chadw dim i'r llancie;
A modrwy aur ar ben pob bys,
A chwrr eu crys yn llapre.