Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Iar y Penmaen Mawr

Oddi ar Wicidestun
Delwedd Pwsi Mew Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

I Ble?


LXXVIII. IAR Y PENMAEN MAWR.

'Roedd gen i iar yn gorri,
Ar ben y Penmaen Mawr,
Mi eis i droed y Wyddfa
I alw arni i lawr;
Mi hedodd ac mi hedodd,
A'i chywion gyda hi,
I ganol tir y Werddon,
Good morning, John! How di?