Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Calennig
Gwedd
← Carlam | Yr Hwiangerddi (O M Edwards) gan Owen Morgan Edwards |
Cartref → |
CCXXXVI. CALENNIG.
CALENNIG i mi, calennig i'r ffon,
Calennig i fwyta, y noson hon;
Calennig i'm tad am glytio'm sgidiau,
Calennig i'm mam am drwsio'm sanau.