Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Da
Gwedd
← Calanmai | Yr Hwiangerddi (O M Edwards) gan Owen Morgan Edwards |
Dacw Dŷ → |
XLIV. XLVI. DA.
Mae gen i darw penwyn,
A gwartheg lawer iawn;
A defaid ar y mynydd,
A phedair das o fawn.
Mae gen i gwpwrdd cornel,
A set o lestri te;
A dresser yn y gegin,
A phopeth yn ei le.
Mae gen i drol a cheffyl,
A merlyn bychan twt,
A phump o wartheg tewion,
Yn pori yn y clwt.