Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Llifio (2)

Oddi ar Wicidestun
Delwedd Si bei, babi Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Ar ôl y Llygod

CCLXXI. LLIFIO.

LLIFIO â llif,
Am geiniog y dydd;
Llifio pren bedw,
Yng nghoed yr hen widw;
Bocs i John, a bocs i finne,
Bocs i bawb drwy'r tŷ 's bydd eise.