Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Ar ôl y Llygod

Oddi ar Wicidestun
Llifio (2) Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Eirinen

CCLXXII. AR OL Y LLYGOD.[1]

WIL ffril ffralog
A'i gledde tair ceiniog,
Yn erlid y llygod trwy'r llydi;
Aeth y llygod i'r dowlad,
Aeth Wil i 'mofyn lletwad;
Aeth llygod i'r ddol.
Aeth Wil ar eu hol,
Aeth y llygod i foddi,
Aeth Wil i gysgu.

  1. Cefais hwn, ac amryw o hwiangerddi Dyfed welir trwy'r llyfr, gan gyfieithydd (Daniel Rees 1855-1931) Dwyfol Gân Dante i'r Gymraeg.