Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Calon Drom
← Brith y Fuches | Yr Hwiangerddi (O M Edwards) gan Owen Morgan Edwards |
Nos Da |
CCXCIX. CALON DROM.
MAE'M calon i mor drymed
A'r march sy'n dringo'r rhiw,
Wrth geisio bod yn llawen,
Nis medraf yn fy myw;
Mae'r esgid fach yn gwasgu
Mewn man nas gwyddoch chwi,
A llawer gofid meddwl
Sy'n torri 'nghalon i.