Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Rhy Wynion

Oddi ar Wicidestun
Siom Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Dim Gwaith

CXCVIII. RHY WYNION.

MAE mam ynghyfraith, hwnt i'r afon,
Yn gweld fy nillad yn rhy wynion;
Mae hi'n meddwl yn ei chalon
Mai 'mab hi sy'n prynnu'r sebon.