Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Calennig 2

Oddi ar Wicidestun
Coes y Fran Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Dwy Wŷdd Radlon

CCLIII. —CCLVII. CALENNIG.[1]

CALENNIG yn gyfan
Ar fore dydd Calan,
Unwaith, dwywaith, tair.

Mi godais yn fore,
Mi gerddais yn ffyrnig,
At dŷ Mr Jones i ofyn calennig;
Os gwelwch yn dda,
Am swllt a chwecheiniog,
Blwyddyn newydd dda
Am ddimai neu geiniog.

Dydd Calan, cynta'r flwyddyn,
'Rwy'n dyfod ar eich traws,
I ymofyn am y geiniog,
Neu glwt o fara a chaws;
Edrychwch arna i 'n siriol,
Newidiwch ddim o'ch gwedd,
Cyn daw Dydd Calan nesaf
Bydd llawer yn y bedd.

Mi godes heddi mas o 'nhy,
A'm ffon a'm cwdyn gyda fi;
A thyma'm neges ar eich traws,
Y:w llanw 'nghwd o fara a chaws.

Dydd Calan yw heddy, onite?
N:a rowch chwi ddim i blant y dre;
Ond rhowch galennig pert dros ben
I blant Cwm Coi a phlant Dre Wen.


  1. Nid wyf yn sicr ai priodol galw caneuon Calan yn ganeuon hwian. Ond hyn a wn, cenid hwy ar yr hen aelwydydd fel caneuon hwian.