Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Medr Elis

Oddi ar Wicidestun
Robin Goch Rhiwabon Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Delwedd Waith bachgen smart wyf fi

CCXXV. MEDR ELIS.

TRI pheth a fedr Elis,—
Rhwymo'r eisin sil yn gidys,
Dal y gwynt a'i roi mewn coden,
Rhoi llyffethair ar draed malwen.