Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Buwch

Oddi ar Wicidestun
Fel Daw Tada Adre Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Lle Pori

CCLXVIII. BUWCH.

MAE gennyf fuwch a dau gorn arian,
Mae gennyf fuwch yn godro'i hunan;
Mae gennyf fuwch yn llanw'r stwcau,
Fel mae'r môr yn llanw'r beiau.