Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Gynt

Oddi ar Wicidestun
Storïau Hen Gaseg Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Y Deryn Bach Syw

CCXCIII. GYNT.

PAN oeddwn yn ferch ifanc,
Ac yn fy ffedog wen,
Yn gwisgo'm cnotyn sidan
Yn uchel ar fy mhen,
Mi neidiwn gainc yn wisgi,
Mi ddaliwn 'nghorff yn syth,
Meddyliais y pryd hynny,—
"Ddaw henaint ata i byth."