Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Pawb Wrthi

Oddi ar Wicidestun
Wrth y Tân Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Te a Siwgr Gwyn

CXC.PAWB WRTHI.

Y CI mawr yn pobi,
Y ci bach yn corddi,
A'r gath ddu yn golchi
Ei gwyneb yn lân;
Y wraig yn y popty
Yn gwylio'r bara'n crasu,
A'r llygod yn rhostio
Y cig wrth y tân.