Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Te a Siwgr Gwyn

Oddi ar Wicidestun
Wrth y Tân Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Delwedd-Ymofyn gwaith, dim gwaith

CXCI. , CXCII. TE A SIWGR GWYN.

HEN ferched bach y pentre,
Yn gwisgo capie lasie,
Yfed te a siwgr gwyn,
A chadw dim i'r llancie.

Bara a llaeth i'r llancie,
Ceirch i'r hen geffyle,
Cic yn ol, a chic ymlaen,
A dim byd i'r genod.