Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Teimlad Da

Oddi ar Wicidestun
Wel, Wel 2 Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Dau Ganu

CCLXII. TEIMLAD DA.

MAE'N dda gen i ddefaid, mae'n dda gen i ŵyn,
Mae'n dda gen i feinwen a phant yn ei thrwyn;
A thipyn bach bach o ol y frech wen,
Yn gwisgo het befar ar ochr ei phen.