Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Da (2)
Gwedd
← Byw Detheu | Yr Hwiangerddi (O M Edwards) gan Owen Morgan Edwards |
Go-Go-Go! → |
LXIV. DA
MAE gen i ebol melyn
A merlen newydd spon,
A thair o wartheg blithion
Yn pori ar y fron:
Mae gen i iar a cheiliog,
Mi cefais er dydd Iau,
Mae'r iar yn dodwy wy bob dydd
A'r ceiliog yn dodwy dau.