Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Rhyfedd Iawn

Oddi ar Wicidestun
Mochyn Bach Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Delwedd Tailiwr oedd fy nhaid

CCXXXIII. RHYFEDD IAWN.

AETH hen wraig i'r dre i brynnu pen tarw,
Pan ddaeth hi'n ol 'roedd y plant wedi marw;
Aeth i'r llofft i ganu'r gloch,
Cwympodd lawr i stwnd y moch.