Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Ceiniog i Mi
← Saethu Llongau | Yr Hwiangerddi (O M Edwards) gan Owen Morgan Edwards |
Y Tywydd |
CLV. CEINIOG I MI.
SI so, si so,
Deryn bach ar ben y to;
Gyrru Gwyddau.
Ceiniog i ti,
Ceiniog i mi,
A cheiniog i'r iar am ddodwy,
A cheiniog i'r ceiliog am ganu.