Neidio i'r cynnwys

Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Mynd i Garu

Oddi ar Wicidestun
Dawns Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Fy Eiddo


CXVIII. MYND I GARU

RHOWCH imi fenthyg ceffyl,
I fyned dros y lan,
I garu'r ferch fach ifanc
Sy'n byw 'da 'i thad a'i mham;
Ac oni ddaw yn foddus,
A'i gwaddol gyda hi,
Gadawaf hi yn llonydd,
Waith bachgen pert wyf fi.