Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Dechreu Caru

Oddi ar Wicidestun
Y Bryn a'r Afon Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Siglo


LXLII. DECHREU CANU.

PAN es i gynta i garu,
O gwmpas tri o'r gloch,
Mi gurais wrth y ffenestr,
Lle'r oedd yr hogen goch.