Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Coed Tân

Oddi ar Wicidestun
Damwain Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Ffair Pwllheli


CXXIII. COED TAN.

Gwern a helyg
Hyd Nadolig.
Bedw, os cair,
Hyd Wyl Fair;
Cringoed caeau
O hynny hyd Glamai;
Briwydd y frân
O hynny ymlaen.