Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Yr Ebol Melyn

Oddi ar Wicidestun
Bachgen Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Gyrru i Gaer

II Yr Ebol Melyn

MAE gen i ebol melyn,
Yn codi'n bedair oed,
A phedair pedol arian
O dan ei bedwar troed;
Mi neidia ac mi brancia
O dan y feinir wen,
Fe reda ugain milltir
Heb dynnu'r ffrwyn o'i ben.


Nodiadau[golygu]