Neidio i'r cynnwys

Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Gyrru i Gaer

Oddi ar Wicidestun
Yr Ebol Melyn Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

I'r ffair

III Gyrru i Gaer

GYRRU, gyrru, gyrru i Gaer;
I briodi merch y maer;
Gyrru, gyrru, gyrru adre,
Wedi priodi ers diwrnode.


Nodiadau

[golygu]