Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Pen y Mynydd Du

Oddi ar Wicidestun
Bum yn Byw Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Gwaith Tri

CCXLVI. PEN Y MYNYDD DU.

PLE mae mam-gu?
"Ar ben y Mynydd Du."
Pwy sydd gyda hi?
"Oen gwyn a myharen ddu.
Fe aeth i lan dros yr Heol Gan,
Fe ddaw i lawr dros yr Heol Fawr."