Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Yr Eneth Benfelen

Oddi ar Wicidestun
Bwgan Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Delwedd Bachgen bach o Ddowles

CLXXIV. YR ENETH BENFELEN.

MAE geneth deg ben-felen
Yn byw ym Mhen y Graig,
Dymunwn yn fy nghalon
Gael honno imi'n wraig;
Hi fedr bobi a golchi,
A thrin y tamaid bwyd,
Ac ennill llawer ceiniog
Er lles y bwthyn llwyd.