Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Holi'r Bysedd

Oddi ar Wicidestun
Y Bysedd Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Rhodd


XXXIII Holi'r Bysedd[1]

"DDOI di i'r mynydd?" meddai'r fawd,
"I beth?" meddai bys yr uwd;
"I hela llwynog" meddai'r hir-fys;[2]
"Beth os gwel ni?" meddai'r canol-fys;
"Llechu dan lechen" meddai bys bychan.


Nodiadau[golygu]

  1. Cyffyrddid â’r fawd a’r bysedd wrth enwi pob un.
  2. Os dymunid gwneud y ddrama yn fwy cyffrous, dywedid yma,—"I ladd defaid." Yr oedd crogi am ddwyn defaid.