Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Bwch y Wyddfa

Oddi ar Wicidestun
Delwedd Waith bachgen smart wyf fi Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Ceffyl John Bach

CCXXVI. BWCH Y WYDDFA.

'ROEDD bwch yn nhroed y Wyddfa
Yn rhwym wrth aerwy pren,
A'r llall yn Ynys Enlli,
Yn ymryson taro pen;
Wrth swn y rhain yn taro,
Mae hyn yn chwedl chwith,
Fe syrthiodd clochdy'r Bermo,
Ac ni chodwyd mohono byth.