Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Cysur Llundain

Oddi ar Wicidestun
Gwlad Braf Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Llong yn Mynd

XIII Cysur Llundain

MI af i Lundain Glamai
Os byddai byw ac iach,
Ni 'rosa i ddim yng Nghymru
I dorri 'nghalon bach;
Mae digon o arian yn Llundain,
A swper gyda'r nos,
A mynd i 'ngwely'n gynnar,
A chodi wyth o'r gloch.


Nodiadau[golygu]