Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Newid Byd
← Cadw Cath Ddu | Yr Hwiangerddi (O M Edwards) gan Owen Morgan Edwards |
Siom |
CXCVI. NEWID BYD.
AR ol bod yn ferch ifanc,
A gwisgo fy ffrog wen,
A'm gwallt i wedi ei blethu
Fel coron ar fy mhen;
A'm sgidiau wedi eu polsio,
A'r rheiny'n cau yn glos,—
Ar ol i mi briodi
Rhaid i mi wisgo clocs.