Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Ga i Fenthyg Ci?

Oddi ar Wicidestun
Si Bei Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Chwalu

CCXXI. GA I FENTHYG CI?

WELWCH chwi fi, a welwch chwi fi?
Welwch chwi'n dda ga i fenthyg ci?
Mae ci modryb Ann
Wedi mynd i'r Llan;
Mae ci modryb Elin
Wedi mynd i'r felin;
Mae ci modryb Catrin
Allan ers meityn;
Mae ci modryb Jane
Wedi mynd yn hen;
Mae ci modryb Sioned
Yn methu a gweled;
Mae ci tad-cu, a chi mam-gu,
Wedi mynd allan hefo'n ci ni;
A chi modryb Ann Ty'n y Coed
Wedi llosgi 'i droed
Mewn padell fawr o bwdin.