Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Hen Lanc

Oddi ar Wicidestun
Lle Mae Pethau Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Caru Ffyddlon


CXXXI. HEN LANC.

BRIODI di?
Na wnaf byth !
Wyt ti'n siwr?
Ydw'n siwr.
Hen lanc yn byw fy hunan
Ydwyf fi;
Yn meddu cwrs o arian,
Ydwyf fi;
Yn meddwl am briodi?
Priodi, na wnaf byth;
Waeth beth fydd gennyf wedyn,
Ond poenau lond fy nyth.