Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Pwsi Mew

Oddi ar Wicidestun
Wel, Wel Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Calanmai


XLI XLII Pwsi Mew

PWSI meri mew,
Ble collaist ti dy flew?
"Wrth fynd i Lwyn Tew
Ar eira mawr a rhew."

"Pa groeso gest ti yno.
Beth gefaist yn dy ben?"
Ces fara haidd coliog,
A llaeth yr hen gaseg wen."


Nodiadau[golygu]