Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Tro Ffôl

Oddi ar Wicidestun
Pe Tasai Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Fel Daw Tada Adre

CCLXVI. TRO FFOL.

FY modryb, fy modryb, a daflodd ei chwd,
Dros bont Aber Glaslyn, i ganol y ffrwd;
Cnau ac afalau oedd ynddo fo'n dynn,
Mi wn fod yn 'difar i'w chalon cyn hyn.