Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Mynd i Lundain

Oddi ar Wicidestun
Llun-Mynd i Ffair y Bala Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Gwlad Braf

XI Mynd i Lundain

BETI bach a finnau
Yn mynd i Lundain G'lanmai;
Os na chawn ni'r ffordd yn rhydd,
Mi neidiwn dros y cloddiau.

Beti bach a finne,
Yn mynd i Lundain Glame;
Mae dŵr y mor yn oer y nos,
Gwell inni aros gartre.


Nodiadau[golygu]