Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Berwi Poten

Oddi ar Wicidestun
Lliw'r Gaseg Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Wrth y Tân

CLXXXVIII. BERWI POTEN.

HEI, ding-a-ding, diri,
Mae poten yn berwi,
Shini a Shani yn gweithio tân dani;
Shani'n ei phuro â phupur a fflŵr,
Ychydig o laeth, a llawer o ddŵr.