Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/O Gwcw
Gwedd
← Lle Pori | Yr Hwiangerddi (O M Edwards) gan Owen Morgan Edwards |
Delwedd Si bei, babi → |
CCLXX. O GWCW.
O GWCW, O gwcw, b'le buost ti cyd
Cyn dod i Benparce? Ti aethost yn fud.
"Meddyliais fod yma bythefnos yn gynt,
Mi godais fy aden i fyny i'r gwynt;
Ni wnes gamgymeriad, nid oeddwn mor ffol,
Corwynt o'r gogledd a'm cadwodd i'n ol."