Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/I'r Siop

Oddi ar Wicidestun
Si So Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Cadw Cath Ddu

CXCIV. I'R SIOP.

MAE gen i ebol melyn
Yn codi'n bedair oed,
A phedair pedol arian
O dan ei bedwar troed;
I'r siop fe geiff garlamu,
I geisio llonnaid sach
O de a siwgr candi
I John a Mari fach.