Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Y Carwr Trist
Gwedd
← Llun Cloc ar y mur i gadw amser | Yr Hwiangerddi (O M Edwards) gan Owen Morgan Edwards |
John → |
CXXXVII. Y CARWR TRIST.
BACHGEN bach o Ddowles,
Yn gweithio'n ngwaith y tân,
Bron a thorri 'i galon
Ar ol y ferch fach lân;
Ei goesau fel y pibau,
A'i freichiau fel y brwyn,
Ei ben e fel pytaten,
A hanner llath o drwyn.