Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Siglo'r Cryd

Oddi ar Wicidestun
Carn Fadryn Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Y Lleuad



LXXXVIII. SIGLO'R CRYD.

SIGLO'R cryd â'm troed wrth bobi,
Siglo'r cryd â'm troed wrth olchi ;
Siglo'r cryd ymhob hysywaeth,
Siglo'r cryd sy raid i famaeth.