Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Rhuddlan

Oddi ar Wicidestun
Dyfed Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Amen

CCVIII. RHUDDLAN.

Y COBLER coch o Ruddlan
A aeth i foddi cath,
Mewn cwd o lian newydd
Nad oedd o damed gwaeth;
Y cwd aeth hefo'r afon,
Y gath a ddaeth i'r lan,
Ow'r cobler coch o Ruddlan,
On'd oedd o'n foddwr gwan?