Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Esgidiau

Oddi ar Wicidestun
Delwedd yr hogen goch Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Robin Goch (2)


CXLVI. ESGIDIAU.

LLE mae 'i sgidie?
Pwy sgidie?
Sgidie John.
Pwy John?
John diti.
Pwy diti?
Diti 'i fam.
Pwy fam?
I fam e'.
Pwy e'?
E' 'i hunan.