Iesu, Iesu, 'r wyt Ti'n ddigon
Gwedd
← Gwyn a gwridog yw fy Arglwydd | Iesu, Iesu, 'r wyt Ti'n ddigon gan William Williams, Pantycelyn |
Iesu, gwyddost fy nghystuddiau → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
188[1] Iesu'n Ddigon
87.87.47.
1 IESU, Iesu, 'r wyt Ti'n ddigon,
'R wyt Ti'n llawer mwy na'r byd;
Mwy trysorau sy'n dy enw
Na thrysorau'r India i gyd:
Oll yn gyfan
Ddaeth i'm meddiant gyda'm Duw.
2 Y mae gwedd dy ŵyneb grasol
Yn rhagori llawer iawn
Ar bob peth a welodd llygad
Ar hyd ŵyneb daear lawn:
Rhosyn Saron,
Ti yw tegwch nef y nef.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 188, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930