Neidio i'r cynnwys

Iesu, gwyddost fy nghystuddiau

Oddi ar Wicidestun
Iesu, Iesu, 'r wyt Ti'n ddigon Iesu, gwyddost fy nghystuddiau

gan William Williams, Pantycelyn

Mae fy meiau fel mynyddoedd
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

189[1] Cydymdeimlad Crist
87. 87. 47.

1 IESU, gwyddost fy nghystuddiau, '
R wyt yn rhifo pob yr un;
Pob rhyw wradwydd, pob rhyw groesau,
Dioddefaist hwynt dy Hun;
Dal fi i fyny
Man bo 'meichiau'n fwyaf trwm.

2 Er dy fod Di heddiw'n eistedd
Yng ngogoniant nef y nef,
Mewn goleuni cyn ddisgleiried
Na ellir nesu ato ef,
'R wyt yn edrych
Ar d'anwylaf yn y byd.

—William Williams, Pantycelyn


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 189, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930