Neidio i'r cynnwys

Mae fy meiau fel mynyddoedd

Oddi ar Wicidestun
Iesu, gwyddost fy nghystuddiau Mae fy meiau fel mynyddoedd

gan William Williams, Pantycelyn

Dacw gariad, dacw bechod
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

190[1] Rhinwedd Gwaed Crist
87.87. 47.

1 MAE fy meiau fel mynyddoedd,
Amlach hefyd yw eu rhi'
Nag yw gwlith y bore wawrddydd,
Nag yw sêr y nefoedd fry:
Gwaed fy Arglwydd
Sydd yn abli olchi 'mai.

2 Golchi'r ddu gydwybod aflan
Lawer gwynnach eira mân;
Gwneud y brwnt, gan' waith ddifwynodd
Yn y domen, fel y gwlân:
Pwy all fesur
Lled a dyfnder maith ei ras?

3 Ei riddfannau ar y croesbren
Oedd yn pwyso beiau'r byd;
Poenau pechod oedd ofnadwy,
Poenau f'Arglwydd oedd fwy drud;
'N awr mae cariad
Yn concwerio dwyfol lid.

—William Williams, Pantycelyn


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 190, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930