Neidio i'r cynnwys

Iesu, Ti yw ffynnon bywyd

Oddi ar Wicidestun
Iesu, llawnder mawr y Nefoedd Iesu, Ti yw ffynnon bywyd

gan William Williams, Pantycelyn

Nid fy nef yw ar y ddaear
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

203[1] Iesu, Ffynnon Bywyd
87. 87. D.

1 IESU, Ti yw ffynnon bywyd,
Bywyd dedwydd i barhau;
Pob rhyw gysur is y nefoedd,
Ynot Ti dy Hun y mae :
Ni all croes, na gwae, na chystudd,
Wneuthur niwed iddynt hwy
Gafodd nerth i wneud eu noddfa
Yn dy ddwyfol farwol glwy'.

2 Dring, fy enaid, i'th orffwysfa,
Uwch y gwynt tymhestlog oer,
'Maes o sŵn rhuadau'r llewod,
'Maes o gyrraedd tonnau'r môr;
Mi gaf yno, dan bob blinder,
Hyfryd dreulio 'nyddiau i maes,
Heb gael briw, na chlais, nac archoll,
Gan neb rhyw elynion cas.

—William Williams, Pantycelyn


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 203, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930