Iesu, llawnder mawr y Nefoedd
← Iesu ei Hunan yw fy mywyd | Iesu, llawnder mawr y Nefoedd gan William Williams, Pantycelyn |
Iesu, Ti yw ffynnon bywyd → |
202[1] Iesu, llawnder mawr y Nefoedd
87. 87. D.
1 IESU, llawnder mawr y nefoedd,
Gwrando lef un eiddil gwan,
Sydd yn gorwedd wrth dy orsedd,
Ac yn codi'i lef i'r lan;
Mae 'ngelynion heb rifedi
Yn fy nghuro o bob tu,
Ac nid oes a all fy achub
Is y nefoedd ond Tydi.
2 Yn dy haeddiant 'r wyf yn gyfiawn,
Yn d'oleuni gwela'i'n glir,
Yn dy wisgoedd dwyfol disglair,
Bydda'i'n ogoneddus bur;
Yn dy iechydwriaeth gyflawn,
Er mor egwan wyf yn awr,
Ceir fy ngweled, ryw ddiwrnod,
Yn disgleirio fel y wawr.
3 Dwed y gair, fy addfwyn Iesu,
Yna f'enaid lawenha-
Gair o addewid caf fy mhuro
O bob pechod, o bob pla;
Gwrendy f'enaid, mewn distawrwydd,
Ar dy adlais distaw main,
Ac fe neidia o orfoledd
Pryd y clyw dy nefol sain.
4 Mae dy lais yn rhoi distawrwydd
Ar holl ddwndwr gwag y byd,
Yn gostegu pob rhyw derfysg
Fago nwydau croes ynghyd;
Y mae'r gwynt yn troi i'r deau,
Ac mae'r hin yn dawel iawn
Pan fo Duw'n cyhoeddi heddwch,
Er mor arw fu'r prynhawn.
—William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 202, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930