Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Angau yn ymyl
Gwedd
← Moliannu'r Oen | Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil) gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Trysorau yr Iawn → |
ANGAU YN YMYL.
MAE'M rhedfa is y rhod,
Yn nesu at y nod;
I'm hymdaith hon is awyr gron,
Mae diwedd bron a dod:
Fy mhabell frau sydd yn llesgau,
Ac yn gwanhau o hyd;
Ac yn y man daw'r amser pan
Bydd f'enaid gwan yn fywiol ran
Mewn anherfynol fyd.
O Dduw rho im' dy hedd,
A golwg ar dy wedd;
A maddeu'n awr fy meiau mawr,
Cyn'r elwy' i lawr i'r bedd:
Ond im' gael hyn, nid ofna'i'r glyn,
Na cholyn angeu'n hwy;
Dof yn dy law i'r ochr draw,
Heb friw na braw, ryw ddydd a ddaw,
Uwchlaw pob loes a chlwy.