Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Moliannu'r Oen
Gwedd
← Coroni Iesu | Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil) gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Angau yn ymyl → |
MOLIANNU YR OEN.[1]
CYDUNWN â'r angylion fry,
Ein tannau yn gytûn;
Deng mil o filoedd yw eu cân,
Er hyn nid yw ond un.
2 Os ydyw'r Oen fu farw yn sail
Eu holl ganiadau hwy,
Mae'n haeddu, am farw drosom ni,
Ein mawl fil miloedd mwy.
3 Ac Ef yn unig biau'r mawl,
Drwy ddwyfol hawl ddi-lyth,
A chlod uwchlaw a allwn ni
Ei roddi iddo byth.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Cyfieithiad o Come, Let Us Join Our Cheerful Songs gan Isaac Watts