Neidio i'r cynnwys

Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Coroni Iesu

Oddi ar Wicidestun
Y Cyfaill goreu Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)

gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Moliannu'r Oen

CORONI IESU YN BEN.[1]

DYRCHAFER enw Iesu cu,
Gan seintiau is y nen;
A holl aneirif luoedd nef,
Coronwch Ef yn ben.

Angylion glân sy'n gwylio'n gylch
Oddeutu'r orsedd wen;
Gosgorddion ei lywodraeth gref,
Coronwch Ef yn ben.


3 Hardd lu'r merthyri, sydd uwchlaw
Erlyniaeth, braw, na sen,
 llafar glod ac uchel lef,
Coronwch Ef yn Ben.

4 Yr holl broffwydi'n awr sy'n gweld
Y Meichiau mawr heb len,
A'i apostolion yn gyd-lef,
Coronwch Ef yn Ben.

5 Pob perchen anadl, ym mhob man,
Dan gwmpas haul y nen,
Ar fôr a thir, mewn gwlad a thref,
Coronwch Ef yn Ben.

6 Yn uchaf oll bo enw'r Hwn
Fu farw ar y pren;
Drwy'r ddaear faith, ac yn y nef,
Coronwch Ef yn Ben.


Nodiadau

[golygu]
  1. Cyfieithiad o All Hail the Power of Jesus' Name gan Edward Perronet